{"product_id":"gwynfyd-welsh-edition-by-ian-parri","title":"Gwynfyd (Welsh Edition) by Ian Parri","description":"\u003cp\u003e\"Ma' pob trefn ar 'i gwanaf pan fo 'na wrthdaro oddi fewn. Ma'n rhaid inni ddeffro'r genedl. Ma'r Orsedd yn eu twyllo. Ffug i gyd yw'r Chwyldro Cynganeddol, rhyw orchudd er mwyn 'yn ca'l ni gyd i'w col. A nawr yw'n cyfle ni. Nawr ne' fyth. Newyddiadurwyr 'yn ni i fod 'n'defe? Rhaid inni weithredu er mwyn i bobol ca'l byw mewn rhyddid unweth 'to. Sytha'r asgwrn cefn 'na da ti.\"\u003c\/p\u003e\u003cp\u003eYr Ynys, dwy genhedlaeth ers y Chwyldro cynganeddol. Fel pawb arall, mae Maldwyn Tanat yn gwingo dan orthrwm yr Orsedd, ond yn mwynhau bywyd cymharol gyfforddus-hyd nes y daw'r cyfle un diwrnod iddo droi'n arwr digon cyndyn...\u003c\/p\u003e\u003cp\u003eDyma nofel gyntaf Ian Parri. Cyfuniad unigryw o ddystopia ac abswrdiaeth, dyma weledigaeth hollol wahanol o'r traddodiad llenyddol Cymraeg sydd yn ddoniol, yn arswydus ac yn heriol yn ei thro.\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\"Dystopia dychrynllyd yw thema Gwynfyd, ac mae'r byd wedi ei saernïo'n ofalus. Gyda phob cam, mae'r plot yn datgelu realaeth ofnadwy... Mae Gwynfyd yn nofel ddifyr a dychrynllyd, ac Ian Parri yn awdur sy'n gwybod sut i dynnu darllenydd i mewn i fyd stori.\"\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e-Manon Steffan Ros\u003c\/p\u003e\u003cp\u003eBwriad cyfres Bydoedd Amgen Melin Bapur yw ehangu ystod y llyfrau sydd ar gael yn y Gymraeg ym meysydd ffuglen ddamcaniaethol-sef ffantasi, ffuglen wyddonol, hanes amgen, ac arswyd-drwy gyhoeddi gweithiau newydd a chyfieithiadau, ac ail-gyhoeddi gweithiau y mae eu hapêl yn parhau.\u003c\/p\u003e","brand":"Literary Cat Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52884684505352,"sku":"9781917237208","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0967\/7688\/0392\/files\/9781917237208.jpg?v=1764336567","url":"https:\/\/literarycatbooks.myshopify.com\/products\/gwynfyd-welsh-edition-by-ian-parri","provider":"Literary Cat Books","version":"1.0","type":"link"}